Cyhoeddwyd mai Rhinedd Mair (Rhinedd Williams) fydd yn olynu Ela Cerrigellgwm (Ela Jones) yn swydd Arolygydd Gwisgoedd yr Orsedd.
Un o Faenclochog, Sir Benfro yw Rhinedd. Fe’i haddysgwyd yn Ysgol y Preseli, Crymych cyn graddio gyda Dosbarth 1af BA Anrhydedd yn y Dyniaethau o Goleg y Drindod, Caerfyrddin, lle y bu wedyn yn Gofrestrydd y Coleg. Wrth fagu’r plant, bu’n athrawes piano, yn gyfeilydd ac yn dysgu canu mewn ysgolion lleol. Ond dychwelyd i fyd gweinyddol oedd y nod, ac mae wedi gweithio yn Rheolwr Swyddfa i amryw o sefydliadau gan gynnwys y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg.
Yn ôl Rhinedd, “Cefais fy magu ar aelwyd lle'r oedd y Gymraeg a’i diwylliant a’i thraddodiadau yn holl bwysig a phwyslais mawr ar eisteddfota – cystadlu’n unigol yn yr Urdd a’r Genedlaethol, perfformio mewn cyngherddau ac yn y capel drwy ganu ac adrodd. Roedd gwaith gwnïo a chrefft hefyd yn rhan fawr o’m plentyndod gan fod mam yn wniyddes heb ei hail ac fe drosglwyddwyd yr arfer a’r ddawn i mi a’m chwaer, Shân.”
Urddwyd Rhinedd i’r Orsedd yn Eisteddfod Abertawe a’r Cylch 2006, gan gymryd yr enw gorseddol Rhinedd Mair. A hithau’n byw yn Llanddarog ers 33 o flynyddoedd gyda’i gŵr, Geraint, a’u tri o blant, cydsefydlodd Rhinedd ‘Adran y Neuadd Fach’ ym Mhorthyrhyd yn 2007 gyda’r bwriad o drosglwyddo profiadau gwerthfawr ei phlentyndod i’r genhedlaeth nesaf. Cyd-enillodd wobr Tlws John a Ceridwen Hughes, Uwchaled yn 2017 am ei gwaith diflino yn hyfforddi ac yn cydweithio gyda phobl ifanc ardal Cwm Gwendraeth.
“Mae’r Orsedd yn rhan allweddol o’n diwylliant fel Cymry,” meddai Rhinedd. “Mae’n hen draddodiad sy’n parhau i ddatblygu a mynd o nerth i nerth. Mae’n bwysig ei gwarchod, gan fod cymaint o’n traddodiadau Cymreig ni’n diflannu. Mae’r seremonïau’n lliwgar ac yn ystwyth, ond heb golli urddas. Anrhydedd fawr yw cael fy newis fel Arolygydd Gwisgoedd yr Orsedd, ac rwy’n edrych ymlaen at gael cysgodi Ela Cerrigellgwm a dysgu oddi wrthi yn ystod y misoedd sy’n dod, cyn ymgymryd â’r rôl yn llawn yn fy ardal enedigol, wrth ymbaratoi ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol 2026 yn Sir Benfro.”
Meddai’r Archdderwydd Mererid, “Wrth ddiolch i bawb a ymgeisiodd ar gyfer swydd Arolygydd y Gwisgoedd, ac wrth ddiolch hefyd i Ela Cerrigellgwm am ei gwasanaeth ardderchog ar hyd y blynyddoedd, rydym ni’n falch iawn o groesawu Rhinedd Mair atom ni. Bydd yr Orsedd heb os yn elwa’n fawr o’i phrofiad, ei doniau a’i gweledigaeth.”