Yn dilyn llwyddiant Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau’r llynedd, mae trefnwyr Eisteddfod Y Fenni yn awyddus i ddenu rhai o’r cystadleuwyr a ddaeth i’r ardal fis Awst diwethaf i ddychwelyd er mwyn cymryd rhan yn Eisteddfod Y Fenni eleni. Cynhelir Eisteddfod i oedolion yn Theatr y Fwrdeistref, Y Fenni o 19:30 tan 22:30, nos Sadwrn 17 Mehefin.
Mae lle pwysig i Eisteddfod Y Fenni yn hanes diwylliannol Cymru, a rhwng 1834 a 1853, trefnwyd 10 eisteddfod yn y dref gan Gymreigyddion y Fenni, cymdeithas sy’n dal i gyfarfod hyd heddiw. Noddwyd yr eisteddfodau hyn gan Arglwyddes Llanofer, un a fu mor ddylanwadol yn hyrwyddo diwylliant gwerin Cymru, ac un a gafodd lawer iawn o sylw yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol y llynedd.
Cafodd Eisteddfod Y Fenni ei hail-gychwyn yn 2002, ac eleni, yn dilyn cynnal yr Eisteddfod Genedlaethol yn lleol, y gobaith yw y bydd mwy o gystadleuwyr nag erioed yn tyrru i’r Fenni ac i gystadlu yn yr eisteddfod.
Meddai Frank Olding, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Sir Fynwy a’r Cyffiniau’r llynedd, “Roedd cynnal yr Eisteddfod Genedlaethol yn lleol y llynedd yn brofiad arbennig, ac yn ddi-os rydym wedi gweld cymaint o ddiddordeb yn yr iaith ers hynny. Mae’r straeon am y galw am wersi Cymraeg yn yr ardal wedi bod ar y newyddion, a’r gobaith yw y gallwn adeiladu ar y llwyddiant yma yn y dyfodol.
“Rydym yn awyddus iawn i ddefnyddio’r ffaith bod yr Eisteddfod wedi dod atom y llynedd i gryfhau ac annog dilynwyr newydd i’n heisteddfod ni yma yn Y Fenni, eisteddfod a gynhelir yn flynyddol, nid dim ond unwaith mewn cenhedlaeth. Ac rydym yn chwilio am gefnogaeth gan gystadleuwyr ym mhob rhan o Gymru, felly os gwyddoch chi am unrhyw un fyddai’n mwynhau dychwelyd i’r ardal i gystadlu, cofiwch sôn am Eisteddfod Y Fenni!”
Gellir lawr lwytho’r manylion o wefan yr Eisteddfod, http://www.abergavennyeisteddfod.co.uk neu o wefan yr Eisteddfod Genedlaethol, https://eisteddfod.cymru/testunau-gwybodaeth-eisteddfod-y-fenni