Christmas is almost upon us, and it’s the ideal opportunity to catch up family and friends, often for the only time every year.
With more and more people across Wales and further afield learning Welsh every year, meeting up with everyone at Christmas and new year is a great chance to practise your Welsh if you’ve been learning over recent months, or, if a member of the family has been learning, it’d the perfect opportunity to see how the lessons are going and to start chatting to each other in Welsh.
If you’re impressed with a family member or friend’s Welsh skills, remember you can nominate them for a special competition, Welsh Learner of the Year. This competition is open to anyone over 18 who has learnt Welsh well. Individuals can compete or a friend, colleague or member of the family – anyone – can nominate someone who has learnt Welsh well.
Many people learn Welsh to speak the language with friends and family. Others want to speak Welsh at work, and lots of people are learning the language so they can use it in their community. And some people see learning Welsh as a challenge. Whatever their reason for learning Welsh, why not get involved in the Welsh Learner of the Year competition?
The 2015 winner at the Montgomeryshire and the Marches National Eisteddfod was Gari Bevan. Gari learnt Welsh so he could use the language with his family. Today, he lives and works through the medium of Welsh, and has just started a Welsh blog on the Eisteddfod website, http://www.eisteddfod.wales/maes-d/blog. Follow him over the next few months during his time as the Welsh Learner of the Year.
There’s plenty of time before the closing date, 31 March, but this is the perfect time to start thinking, discussing and gathering information whilst socialising. Download the entry form from the Beth Amdani booklet, available on the Maes D pages on the Monmouthshire and District Eisteddfod website, www.eisteddfod.wales. You’ll also find plenty of information about other competitions for learners here as well.
The winner of the Welsh Learner of the Year will receive a trophy and £300, and the other three finalists will also receive trophies and £100 each. The prizes are donated by the Gwent Welsh for Adults Centre. The four finalists will also receive a year’s subscription to the magazine, Golwg, and gifts from Merched y Wawr. The winner is invited to become a member of the Gorsedd.
So as we approach the holiday, party and family get-together season, remember about the Welsh learner of the Year competition when congratulating family and friends on their Welsh over Christmas and the New Year.
The Monmouthshire and District National Eisteddfod is held on Castle Meadows, Abergavenny from 29 July – 6 August.
Y CHWILIO AM DDYSGWR Y FLWYDDYN EISTEDDFOD 2016 AR GYCHWYN
Mae’r Nadolig ar y gorwel, ac yn gyfle i deuluoedd a ffrindiau i ddod ynghyd i ddal i fyny gyda hanesion a straeon ei gilydd, yn aml am yr unig dro yn ystod y flwyddyn.
Gyda mwy a mwy o bobl ar hyd a lled Cymru a thu hwnt yn mynd ati i ddysgu Cymraeg bob blwyddyn, gall cyfarfod â phawb adeg y Nadolig fod yn gyfle i ymarfer eich Cymraeg os ydych chi wedi bod yn dysgu dros y misoedd diwethaf, neu, os oes aelod o’r teulu wedi bod yn dysgu, mae’n gyfle hefyd i weld sut mae’r gwersi’n mynd ac i ddechrau sgwrsio yn y Gymraeg.
Wrth ddod ynghyd a dotio ar Gymraeg ffrindiau a theulu, cofiwch fod modd eu henwebu ar gyfer cystadleuaeth arbennig iawn, Dysgwr y Flwyddyn. Mae’r gystadleuaeth hon yn agored i unrhyw un dros 18 oed sydd wedi dysgu Cymraeg yn eithaf rhugl. Gall unigolyn ymgeisio’i hun, neu gall teulu, ffrind, cydymaith - unrhyw un - fynd ati i enwebu rhywun sydd wedi gwneud eu gorau gyda’r Gymraeg.
Mae llawer o bobl yn mynd ati i ddysgu Cymraeg er mwyn ei siarad gyda ffrindiau a theulu. Mae eraill yn dysgu’r iaith er mwyn ei siarad yn y gwaith, a nifer yn awyddus i’w defnyddio yn y gymuned leol. Ac mae rhai pobl yn dysgu Cymraeg gan eu bod yn chwilio am her newydd. Beth bynnag yw’r rheswm dros ddysgu Cymraeg, gellir mynd ati i gystadlu neu drefnu enwebiad ar gyfer cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn.
Gari Bevan o Ferthyr Tudful oedd enillydd y gystadleuaeth yn Eisteddfod Maldwyn a’r Gororau eleni, ac aeth Gari ati i ddysgu Cymraeg er mwyn ei siarad gyda’i deulu. Erbyn heddiw, mae Gari’n byw ac yn gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae newydd gychwyn cadw blog ar wefan yr Eisteddfod, www.eisteddfod.cymru/maes-d/blog-dysgwr-y-flwyddyn.
Gallwch ddilyn ei hanes dros y misoedd nesaf yn ystod ei gyfnod fel Dysgwr y Flwyddyn.
Mae digon o amser ar ôl tan y dyddiad cau, 31 Mawrth, ond mae’r cyfnod hwn yn adeg berffaith i ddechrau meddwl, trafod a chasglu rhywfaint o wybodaeth - a hynny wrth gymdeithasu!
Gellir lawrlwytho’r ffurflen gais o’r llyfryn Beth Amdani, sydd ar gael ar dudalennau Eisteddfod Sir Fynwy a’r Cyffiniau ar wefan yr Eisteddfod, www.eisteddfod.cymru. Ceir gwybodaeth am nifer fawr o gystadlaethau eraill i ddysgwyr yn y llyfryn Beth Amdani hefyd.
Bydd enillydd Dysgwr y Flwyddyn yn derbyn tlws arbennig a £300, a bydd y tri arall sy’n cyrraedd y rownd derfynol yn derbyn tlysau a £100 yr un. Mae’r gwobrau’n rhoddedig gan Ganolfan Cymraeg i Oedolion Gwent. Bydd y pedwar hefyd yn derbyn tanysgrifiad blwyddyn i’r cylchgrawn Golwg, a rhoddion gan fudiad Merched y Wawr. Bydd yr enillydd hefyd yn cael ei g/wahodd i fod yn aelod o’r Orsedd.
Felly, wrth i ni agosáu at gyfnod y gwyliau, partïon ac aduniadau teuluol, cofiwch am gystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn wrth longyfarch teulu a ffrindiau ar eu Cymraeg dros gyfnod y Nadolig a’r flwyddyn newydd!
Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau ar Ddolydd y Castell, Y Fenni o 29 Gorffennaf – 6 Awst.